Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 25 Ebrill 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:31 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones (Cadeirydd) Peter Black Janet Finch-Saunders Mike Hedges Mark Isherwood Bethan Jenkins Gwyn R Price Ken Skates Rhodri Glyn Thomas Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jonathan Ford, Cymdeithas Bêl-droed Cymru John Deakin, Uwch Gynghrair Cymru Neil Ward, Ymddiriedolaeth Bêl-Droed Cymru Tom Morgan, Cyn-chwaraewr a cyn-rheolwr Uwch Gynghrair Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Rhys Iorwerth (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r Pwyllgor. Nid oedd dim ymddiheuriadau.
Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad ei bod yn ddeiliad tocyn tymor Clwb Pêl-droed y Rhyl.
2. Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru - sesiwn dystiolaeth
Croesawodd y Cadeirydd Jonathan Ford a John Deakin o Gymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW). Holodd yr Aelodau y tystion.
Cytunodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am:
- Y gefnogaeth bresennol a gaiff ei darparu gan lywodraeth ganolog a llywodraeth leol yng Nghymru i uwch gynghrair Cymru ac awgrymiadau ar gyfer cefnogaeth yn y dyfodol.
- Y gwaith sy’n cael ei wneud o ran mynd i’r afael â hiliaeth ac ymestyn allan i gymunedau pêl-droed mwy amrywiol fel menywod, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.
3. Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru - sesiwn dystiolaeth
Croesawodd y Cadeirydd Neil Ward o Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru. Holodd yr Aelodau y tystion.
Cytunodd yr Ymddiriedolaeth Bêl-droed i ddarparu rhagor o wybodaeth am y ganran o fenywod a phobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sydd â chymwysterau hyfforddi.
4. Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru - sesiwn dystiolaeth
Croesawodd y Cadeirydd Tom Morgan, rheolwr Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth. Holodd yr Aelodau y tyst.
5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 6.
6. Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Ystyried yr adroddiad drafft
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).
7. Papurau i'w nodi
Nodwyd y papurau.
Trawsgrifiad